Trefnu sgan01293 534 043
Iaith
EnglishPolskiRomânăਪੰਜਾਬੀاردوPortuguês
Cymraeg
Ein gwasanaethauAbertawe: 1 Tachwedd 2026I gleifionCysylltu
English
HomeOur scansLocationsPatient hubContact
Y cwmni
About usQuality & governanceCareersPrime Health

Cartref / Abertawe / MRI

Arweiniad i gleifion · Abertawe

MRI: arweiniad i’ch sgan

Beth yw sgan MRI, sut i baratoi, a beth sy’n digwydd pan fyddwch yn cyrraedd.

Read this in English

Beth yw sgan MRI?

Ystyr MRI yw ‘delweddu atseiniol magnetig’. Dyma dechneg delweddu sy’n defnyddio maes magnetig cryf i gynhyrchu delweddau o safon uchel o strwythur a swyddogaeth fewnol eich corff. Mae’n ddefnyddiol iawn i chwilio am strwythurau meinweoedd meddal, megis cyhyrau a gewynnau.

A yw’n ddiogel?

Defnyddiwyd MRI yn y wlad hon ers dros 25 o flynyddoedd, ac nid ydym yn ymwybodol o unrhyw sgî-effeithiau.

Oherwydd y maes magnetig, mae diogelwch o’r pwys mwyaf. I wneud yn siŵr eich bod yn ddiogel i gael sgan MRI, dylech gysylltu â ni os oes unrhyw rai o’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • Rydych yn feichiog neu efallai’n feichiog.
  • Mae gennych reoliadur y galon.
  • Rydych wedi cael llawdriniaeth o unrhyw fath ar y galon.
  • Mae gennych fewnblaniad cochlea, neurostimulator, neu siynt hydrocephalus rhaglenadwy.
  • Mae gennych fewnblaniad metel yn eich corff.
  • Rydych wedi cael damwain i’ch llygaid a oedd yn cynnwys metel neu ddarnau o fetel.
  • Rydych wedi cael unrhyw lawdriniaethau ar eich pen, eich llygaid, eich clustiau neu asgwrn eich cefn.

Pwy fyddaf yn ei weld?

Byddwch yn gweld tîm bach o staff radiograffeg yn gofalu amdanoch yn ystod eich ymweliad.

A oes angen pigiad arnaf?

Ar gyfer rhai archwiliadau, efallai y bydd angen i ni chwistrellu lliw (sef yr hyn a elwir yn ‘gyfrwng cyferbynnu’) i’r wythïen i gynyddu faint o wybodaeth y gallwn ei chael o’r sgan. Fel pob pigiad arall, mae risg isel iawn o adwaith alergaidd. Mae ein timau meddygol wedi’u hyfforddi i ymdrin â’r achosion hyn os ydynt yn digwydd. Os ydych wedi cael adwaith i unrhyw bigiad a roddwyd ar gyfer pelydr-X o’r arennau (IVP neu IVU) neu sgan yn y gorffennol, rhowch wybod i’r radiograffydd cyn iddo roi’r pigiad.

Cyn y sgan

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau diogelwch i chi pan fyddwch yn trefnu apwyntiad a bydd angen i chi gwblhau holiadur diogelwch y byddwn yn ei anfon atoch gyda’ch llythyr apwyntiad. Cofiwch ddod â’r holiadur hwn gyda chi i’ch apwyntiad.

Oni bai ein bod yn dweud wrthych fel arall, nid oes angen gwneud unrhyw baratoadau arbennig cyn eich sgan MRI: gallwch barhau i yfed a bwyta fel arfer a chymryd unrhyw feddyginiaethau ar bresgripsiwn.

Mae ychydig o gyfarwyddiadau syml y mae angen i chi eu dilyn cyn y sgan:

  • Dylech ddod yn gwisgo dillad heb sipiau neu fotymau metel os oes modd.
  • Dylech adael unrhyw eiddo gwerthfawr, megis gemwaith neu oriorau, gartref.
  • Dylech gyrraedd 10 munud cyn eich apwyntiad.
  • Dylech ddweud wrthym a oes gennych unrhyw anghenion arbennig (er enghraifft os oes angen mynediad i gadair olwyn arnoch, eich bod yn drwm eich clyw, yn cael trafferth gweld neu os ydych yn glawstroffobig).

Beth sy’n digwydd yn ystod fy apwyntiad?

  • Pan fyddwch yn cyrraedd dylech fynd i ddesg y dderbynfa.
  • Bydd y radiograffydd neu aelod arall o staff yn cwrdd â chi ac yn esbonio’r broses i chi. Byddwn yn gwirio eich holiadur diogelwch unwaith yn rhagor.
  • Efallai y byddwn yn gofyn i chi wisgo gŵn. Os bydd angen i chi newid, caiff eich dillad a’ch eitemau personol eu cadw mewn man diogel.
  • Gofynnir i chi orwedd ar y gwely MRI a byddwn yn sicrhau eich bod mor gyfforddus â phosibl. Bydd y radiograffydd yn eich symud i’r sganiwr. Gofynnir i chi aros mor llonydd â phosibl a byddwch yn cael amddiffynwyr clustiau i’w gwisgo oherwydd sŵn y sganiwr.
  • Mae’r archwiliad yn cynnwys cyfres o sganiau. Ceir saib byr rhwng pob sgan.
  • Bydd y radiograffydd sy’n gyfrifol am y sganiwr yn siarad â chi rhwng sganiau.
  • Os ydych yn cael anhawster yn ystod y sgan, bydd modd i chi ganu cloch mewn argyfwng os bydd angen help arnoch.

A fydd yn anghyfforddus?

Byddwn yn sicrhau eich bod mor gyfforddus â phosibl. Byddwch yn clywed rhai synau mecanyddol uchel o’r sganiwr ond mae hyn yn arferol.

Pa mor hir fydd hyn yn cymryd?

Mae’r rhan fwyaf o sganiau’n cymryd oddeutu 30 munud, ond gall rhai gymryd hyd at ddwy awr. Mae hyn yn dibynnu ar yr ardal sy’n cael ei sganio.

Ar ôl eich sgan

  • Gallwch yfed a bwyta fel arfer ar ôl eich sgan.
  • Gallwch yrru gartref ar ôl y sgan a dychwelyd i’r gwaith os bydd angen.

A oes unrhyw sgî-effeithiau?

Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw sgî-effeithiau o gael sgan MRI.

Pryd byddaf yn cael y canlyniadau?

Bydd radiolegydd yn gwirio canlyniadau’r sgan ar ôl eich apwyntiad ac yn anfon adroddiad at eich meddyg neu’ch meddyg ymgynghorol. Dywedir wrthych ba mor hir y dylai hyn gymryd yn ystod eich apwyntiad.

Os nad oes apwyntiad dilynol wedi’i drefnu eisoes, bydd angen i chi gysylltu â’ch meddyg neu’ch meddyg ymgynghorol i drefnu apwyntiad er mwyn cael eich canlyniadau.

A allaf i ddod â ffrind neu berthynas gyda mi?

Gallwch, ond mewn amgylchiadau arbennig yn unig y cânt fynd i’r ystafell sganio (oherwydd rhesymau diogelwch), a dim ond ar ôl iddynt gwblhau holiadur sy’n dangos eu bod yn ddiogel i fynd i mewn i’r maes magnetig.

Ni fydd plant yn cael mynd i’r ystafell pan fyddwch yn cael y sgan, felly bydd angen i chi wneud trefniadau ar eu cyfer cyn i chi ddod i’ch apwyntiad. Ni fydd staff yn gallu helpu.

Cysylltu â ni

Ffoniwch y cyfleuster delweddu ar 01792 606 420 os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu'r rhif sydd ar eich llythyr apwyntiad.

Gwybodaeth i gleifion y cyfleuster delweddu yw'r arweiniad hwn. Os yw unrhyw beth yma'n wahanol i'ch llythyr apwyntiad, dilynwch y llythyr a ffoniwch ni os ydych yn ansicr.

Cwestiynau cyn eich sgan?

Ffoniwch y cyfleuster delweddu yn Abertawe, neu'r rhif sydd ar eich llythyr apwyntiad.

01792 606 420 →Am yr uned yn Abertawe

Gwybodaeth i gleifion

Popeth sydd ei angen arnoch cyn sgan

Y cyfleuster delweddu01792 606 420

Hygyrchedd ac ieithoedd. Dywedwch wrthym wrth archebu os oes angen mynediad gwastad, amser ychwanegol, cyfieithydd neu gydymaith arnoch.