Trefnu sgan01293 534 043
Iaith
EnglishPolskiRomânăਪੰਜਾਬੀاردوPortuguês
Cymraeg
Ein gwasanaethauAbertawe: 1 Tachwedd 2026I gleifionCysylltu
English
HomeOur scansLocationsPatient hubContact
Y cwmni
About usQuality & governanceCareersPrime Health

Cartref / Abertawe / CT

Arweiniad i gleifion · Abertawe

CT: arweiniad i’ch sgan

Beth yw sgan CT, sut i baratoi, a beth sy’n digwydd pan fyddwch yn cyrraedd.

Read this in English

Beth yw sgan CT?

Ystyr CT yw ‘tomograffeg gyfrifiadurol’. Mae’n defnyddio pelydrau-X i gynhyrchu delwedd drawsadrannol neu ‘sleisen’ o’r tu mewn i’ch corff.

Pwy fyddaf yn ei weld?

Bydd tîm bach o staff radiograffeg yn gofalu amdanoch yn ystod eich ymweliad, a bydd un o’r radiograffwyr yn cynnal y sgan.

A yw’n ddiogel?

Mae faint o ymbelydredd a ddefnyddir yn amrywio. Mae’r risgiau sy’n gysylltiedig ag ymbelydredd yn fach iawn, ond gall y risg o fethu problem ddifrifol os nad ydych yn cael sgan CT fod lawer yn uwch.

Os ydych yn credu y gallech fod yn feichiog, dylech ddweud wrthym cyn eich sgan.

A oes angen pigiad arnaf?

Mae nifer o sganiau CT yn cynnwys chwistrellu sylwedd (sef yr hyn a elwir yn ‘gyfrwng cyferbynnu’) i’r wythïen i gynyddu faint o wybodaeth y gallwn ei chael o’r sgan. Gall y pigiad wneud i’ch corff deimlo’n gynnes a gwneud i chi flasu metel yn eich ceg. Fel pob pigiad arall, mae risg isel iawn o adwaith alergaidd - sy’n amrywio o adweithiau bach megis brech ar y croen i’r rhai mwy difrifol megis pwl o asthma. Mae ein timau meddygol wedi’u hyfforddi i ymdrin â’r achosion hyn os ydynt yn digwydd. Os ydych wedi cael adwaith i unrhyw bigiad a roddwyd ar gyfer pelydr-X o’r arennau (IVP neu IVU) neu sgan CT yn y gorffennol, rhowch wybod i’r radiograffydd cyn iddo roi’r pigiad.

Cyn y sgan

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau diogelwch i chi pan fyddwch yn trefnu apwyntiad a bydd angen i chi gwblhau holiadur diogelwch y byddwn yn ei anfon atoch gyda’ch llythyr apwyntiad. Cofiwch ddod â’r holiadur hwn gyda chi i’ch apwyntiad.

Efallai y bydd angen paratoi ychydig i helpu i ddangos organau gwahanol yn y corff. Bydd gwybodaeth am hyn yn eich llythyr apwyntiad os bydd angen gwneud hyn. Nid oes angen i chi baratoi ar gyfer sganiau i’r ymennydd, y gwddf neu’r fræst. Efallai y byddwn yn gofyn i chi yfed hyn a hyn o hylif neu ddiod arbennig cyn cael sgan i’r abdomen neu’r pelfis.

Ceir rhai cyfarwyddiadau y mae angen i chi eu dilyn cyn y sgan:

  • Ni ddylech yfed na bwyta os ydym wedi gofyn i chi beidio â gwneud hynny (bydd hyn yn berthnasol i rai sganiau yn unig). Os oes angen, byddwn yn rhoi mwy o fanylion i chi pan fyddwch yn trefnu eich apwyntiad.
  • Dylech ddweud wrthym os oes gennych glefyd y siwgr neu os ydych yn cymryd metformin.
  • Dylech ddweud wrthym os oes gennych unrhyw alergeddau neu asthma, neu os ydych wedi cael adwaith i unrhyw bigiad arall a roddwyd ar gyfer pelydr-X o’r arennau (IVP neu IVU) neu sgan CT yn y gorffennol.
  • Dylech ddweud wrthym os ydych yn feichiog neu’n bwydo ar y fron.
  • Dylech wisgo dillad cyfforddus a llac.
  • Dylech ddweud wrthym os oes gennych unrhyw anghenion arbennig (er enghraifft os oes angen mynediad i gadair olwyn arnoch, eich bod yn drwm eich clyw, yn cael trafferth gweld neu os ydych yn glawstroffobig).

Beth sy’n digwydd yn ystod fy apwyntiad?

  • Pan fyddwch yn cyrraedd dylech fynd i ddesg y dderbynfa (dewch â’ch llythyr apwyntiad gyda chi a fydd â manylion o ran pwy i ofyn amdano o bosibl).
  • Bydd y radiograffydd neu aelod arall o staff yn cwrdd â chi ac yn esbonio’r broses i chi.
  • Byddwn yn gwirio eich holiadur diogelwch (neu’n gofyn i chi gwblhau un os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny).
  • Byddwch yn cael y cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
  • Ar gyfer rhai mathau o sganiau CT, byddwn yn gofyn i chi yfed diod cyferbynnu arbennig hyd at awr cyn eich sgan.
  • Efallai y byddwn yn gofyn i chi wisgo gŵn. Os bydd angen i chi newid, caiff eich dillad a’ch eitemau personol eu cadw mewn man diogel.
  • Efallai y bydd angen i ni roi pigiad i chi - mae hyn yn dibynnu ar yr ardal y mae angen ei sganio.
  • Byddwn yn eich tywys i’r ystafell sganio ac yn gofyn i chi orwedd ar y bwrdd sganio.
  • Byddwn yn symud y bwrdd yn araf fel ein bod yn gallu sicrhau bod y rhan o’r corff sy’n mynd i gael ei sganio o dan y camera sganio.
  • Efallai y byddwn yn gofyn i chi ddal eich anadl neu beidio â llyncu yn ystod y sgan.
  • Bydd y radiograffydd sy’n gyfrifol am y sganiwr yn gallu eich gweld a’ch clywed drwy gydol y broses.

A fydd yn anghyfforddus?

Byddwn yn sicrhau eich bod mor gyfforddus â phosibl. Ni fydd y sgan yn achosi poen. Efallai y rhoddir pigiad i chi.

Pa mor hir fydd hyn yn cymryd?

Os rhoddir diod i chi ei yfed wrth gyrraedd, efallai y bydd angen i chi aros awr cyn cael eich sgan. Mae’r rhan fwyaf o sganiau’n para oddeutu 45 munud.

Ar ôl y sgan

  • Gallwch yfed a bwyta fel arfer ar ôl eich sgan.
  • Os ydych wedi cael pigiad, gofynnwn i chi aros yn y dderbynfa am 30 munud ar ôl eich archwiliad rhag ofn y cewch adwaith i’r pigiad.
  • Gallwch yrru gartref ar ôl y sgan a dychwelyd i’r gwaith os bydd angen.

A oes unrhyw sgî-effeithiau?

Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw sgî-effeithiau o gael sgan CT.

Pryd byddaf yn cael y canlyniadau?

Bydd radiolegydd yn gwirio canlyniadau’r sgan ar ôl eich apwyntiad ac yn anfon adroddiad at eich meddyg neu’ch meddyg ymgynghorol. Dywedir wrthych ba mor hir y dylai hyn gymryd yn ystod eich apwyntiad.

Os nad oes apwyntiad dilynol wedi’i drefnu eisoes, bydd angen i chi gysylltu â’ch meddyg neu’ch meddyg ymgynghorol i drefnu apwyntiad er mwyn cael eich canlyniadau.

A allaf i ddod â ffrind neu berthynas gyda mi?

Gallwch, ond mewn amgylchiadau arbennig yn unig y cânt fynd i’r ystafell archwilio (oherwydd rhesymau diogelwch).

Ni fydd plant yn cael mynd i’r ystafell pan fyddwch yn cael y sgan, felly bydd angen i chi wneud trefniadau ar eu cyfer cyn i chi ddod i’ch apwyntiad. Ni fydd staff yn gallu helpu.

Cysylltu â ni

Ffoniwch y cyfleuster delweddu ar 01792 606 420 os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu'r rhif sydd ar eich llythyr apwyntiad.

Gwybodaeth i gleifion y cyfleuster delweddu yw'r arweiniad hwn. Os yw unrhyw beth yma'n wahanol i'ch llythyr apwyntiad, dilynwch y llythyr a ffoniwch ni os ydych yn ansicr.

Cwestiynau cyn eich sgan?

Ffoniwch y cyfleuster delweddu yn Abertawe, neu'r rhif sydd ar eich llythyr apwyntiad.

01792 606 420 →Am yr uned yn Abertawe

Gwybodaeth i gleifion

Popeth sydd ei angen arnoch cyn sgan

Y cyfleuster delweddu01792 606 420

Hygyrchedd ac ieithoedd. Dywedwch wrthym wrth archebu os oes angen mynediad gwastad, amser ychwanegol, cyfieithydd neu gydymaith arnoch.